Newyddion - Gŵyl Bwyd Môr Menai | 2017 dyddiad dod yn fuan

Canolfan Môr Cymru yn agor ei drysau i’r cyhoedd yn ystod Gŵyl Bwyd Môr Menai

SEACAMS 012-0074

Bydd cyfle i unigryw i fynychwyr Gŵyl Bwyd Môr Menai ddydd Sadwrn (20 Awst 2016) ymweld â Chanolfan Môr Cymru ar safle Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy.

Dyma yw’r diwrnod agored cyntaf i’r cyhoedd er pan agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan Dywysog Cymru ym mis Gorffennaf eleni. Bydd arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol yn dangos y gwaith arloesol a wneir gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion.

Mae Canolfan Môr Cymru yn gyfleuster modern, amgylcheddol-gyfeillgar gwerth £5.5M ar gyfer y sector morol yng Nghymru. Mae’n rhoi ffocws a mynediad i arbenigedd a gofod ar gyfer cydweithredu rhwng ymchwilwyr, gweithredwyr masnachol ac asiantaethau yn y sector.

Read More

Horizon yn cefnogi Gŵyl Bwyd Môr Menai

David Evans & Richard Foxhall-1

Heddiw (11 Awst), mae Pŵer Niwclear Horizon wedi cyhoeddi nawdd o £2,000 i’r Ŵyl Bwyd Môr Menai boblogaidd ar Ynys Môn.

Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai, a gynhelir am ddim ar ddydd Sadwrn 20 Awst ym Mhorthaethwy, yn dathlu treftadaeth arfordirol Ynys Môn, a’r doreth o fwyd môr lleol sydd ar gael o amgylch yr ynys. Mae’r sioe yn cynnwys arddangosiadau coginio, marchnad cynnyrch ac adloniant i’r hen a’r ifanc – yn ogystal â digon o bethau i’w bwyta. Mae’n ŵyl fwyd allweddol yng nghalendr digwyddiadau bwyd gogledd Cymru.

Cafodd Gŵyl Bwyd Môr Menai, a gynhaliwyd am y tro cyntaf ym mis Awst 2013, ei sefydlu gan grŵp o drigolion a busnesau ym Mhorthaethwy er mwyn hyrwyddo’r diwydiant pysgota lleol. Ers hynny mae’r Ŵyl Fwy Môr wedi mynd o nerth i nerth, ac yn denu dros 10,000 o ymwelwyr yn rheolaidd.

Bydd nawdd Horizon yn cefnogi Gŵyl Bwyd Môr Menai am flwyddyn arall, a bydd aelodau o’r tîm yno i dynnu sylw at ymgynghoriad nesaf y cwmni ar y cynigion diweddaraf ar gyfer Wylfa Newydd, sy’n cael ei lansio ddydd Mercher 31 Awst.

Dywedodd Greg Evans, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynhyrchu Horizon: “Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr coginio Ynys Môn, ac yn ffordd o ddathlu’r cyfoeth o fwyd môr sydd ar gael yn y môr yma, yn ogystal â bywyd yr ynys ei hun hefyd. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Ŵyl Fwyd Môr a chydnabod pa mor bwysig yw hi i’r gymuned leol a’r busnesau ledled Ynys Môn. Byddwn ni yno hefyd eleni i ateb eich cwestiynau am Wylfa Newydd a’n hymgynghoriad cyhoeddus nesaf, felly galwch heibio i gwrdd â’r tîm.”

Dywedodd David Evans, Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Bwyd Môr Menai: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Horizon am ei gyfraniad a’i gefnogaeth. Mae Wylfa Newydd yn ddatblygiad sylweddol yma ar Ynys Môn, ac mae’n galonogol iawn gweld bod Horizon yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol.

“Fel digwyddiad cymunedol dielw, rydym yn dibynnu’n llwyr ar nawdd a rhoddion i dalu ein costau a gwneud yn siŵr y gallwn barhau i gynnal yr Ŵyl flwyddyn ar ôl blwyddyn. Heb haelioni ein noddwyr a’n tîm arbennig o wirfoddolwyr, ni fyddai modd i ni gynnal y digwyddiad.”

Mae cynllun Rhoddion Elusennol, Cymorth Cymunedol a Nawdd Horizon yn darparu cyllid i elusennau, prosiectau a grwpiau lleol. Cyfrannodd y cwmni datblygu gorsaf bŵer arfaethedig dros £100,000 o gyllid eleni, gan sicrhau budd i tua 60 o achosion da. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth cymunedol Horizon, a sut mae gwneud cais am gyllid yn: http://www.horizonnuclearpower.com/cefnogir-gymuned.

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau Horizon i adeiladu Wylfa Newydd, gan gynnwys ei ymgynghoriad nesaf, ewch i: www.horizonnuclearpower.com/ymgynghoriad.

Gall pobl leol gyfarfod â thîm Horizon hefyd yn y Gymhorthfa Agored nesaf ddydd Llun 15 Awst yn Neuadd Bentref Cemaes. Bydd y tîm ar gael rhwng 1pm a 7pm.

Mwy na 200 o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen addysg

Mae disgyblion o saith ysgol gynradd yn Ynys Môn wedi bod yn dysgu am amgylchedd a bywyd y dyfroedd lleol, diolch i dîm Gŵyl Bwyd Môr Menai.

Mae mwy na 200 o blant wedi cymryd rhan yn rhaglen addysg yr Ŵyl sydd yn dysgu pobl ifanc am bwysigrwydd gwarchod a gwella’r amgylchedd arfordirol.

Noddwyd y rhaglen gan Ystadau Mostyn, a’r bwriad yw cyfuno addysg forol gyda choginio a chelf. Mae gweithdai wedi eu cynnal yn y saith ysgol gynradd yn nalgylch Porthaethwy, lle bydd yr Ŵyl Bwyd Môr yn cael ei chynnal am y pedwaredd flwyddyn yn olynol.

Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys sesiynau gan fiolegydd morol o Sŵ Môr Môn ynghylch effaith sbwriel ar yr arfordir a phwysigrwydd ailgylchu. Hefyd fel rhan o’r prosiect, cynhaliwyd sesiynau coginio a blasu gyda chogyddion Dylan’s a Denise Baker o Moel Faban Suppers i ddysgu sut i baratoi a mwynhau pysgod a bwyd môr lleol, a sesiynau celf lle cafodd y plant gyfle i greu pysgod lliwgar gan ddefnyddio hen boteli plastig a deunyddiau eraill wedi eu hailgylchu. Bydd y pysgod yn cael eu defnyddio i greu bynting deniadol i addurno safle’r Ŵyl.

Meddai Cadeirydd yr Ŵyl, David Evans: “Mae addysg yn elfen ganolog o’r digwyddiad. Sefydlwyd yr Ŵyl yn ôl yn 2013 i godi ymwybyddiaeth o’r cynnyrch ardderchog sydd ar gael oddi ar arfordir Môn, ac i bwysleisio mor bwysig yw gwarchod ein treftadaeth ac amgylchedd arfordirol.

“Rydyn ni’n hynod falch bod yr ysgolion lleol wedi cymryd rhan yn y rhaglen addysg eto eleni, ac mae’n wych fod cymaint o blant wedi cael cyfle i fwynhau’r gweithdai.”

Y saith ysgol a gymerodd ran oedd: Beaumaris, Llandegfan, Llanddaniel, Llangoed, Llanfairpwll, Porthaethwy a Phentraeth.

Meddai Mrs Gwyneth Môn Hughes, Pennaeth Ysgol Gynradd Beaumaris: “Mae’r gweithdai hyn wedi bod yn arbennig o fuddiol i’r plant. Maen nhw wedi cael cyfle i flasu a dysgu am y math o fwydydd môr sydd ar gael ar y stepan drws, a gobeithio y bydd hynny’n eu hannog i barhau i goginio a bwyta pysgod a bwyd môr yn y dyfodol.

“Mae’r sesiynau hefyd wedi eu dysgu am yr amgylchedd lleol a pha mor bwysig ydyw i ailgylchu ac ailddefnyddio er mwyn cadw ein harfordir yn lân.

“Yr hyn sy’n grêt am raglen addysg Gŵyl Bwyd Môr Menai yw ei bod yn clymu’n berffaith gyda’r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth, daearyddiaeth a chelf felly gallwn adeiladu ar yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu trwy weithgareddau ychwanegol yn yr ysgol. “

Cyhoeddi arlwy y cyngerdd agoriadol

Mae’r arlwy ar gyfer cyngerdd agoriadol Gŵyl Bwyd Môr Menai wedi ei chyhoeddi.

Bydd Meic Stevens yn dod i ddiddanu’r gynulleidfa, ochr yn ochr â Band Al Lewis, Sera a’r Band a Chôr Ieuenctid Môn.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn adeilad Pier y Tywysog am 6pm nos Wener 19 Awst. Mae’r tocynnau yn £15 i oedolion ac mae tocynnau consesiwn ar gael am £10. Noddir y cyngerdd eleni gan Bangor Mussel Producers.

Ar y dydd Sadwrn, bydd diwrnod llawn o weithgareddau yn cynnwys marchnad bwyd môr a chynnyrch lleol, stondinau bwyd stryd, saffaris glan y môr, celf a chrefft, a theithiau tywys o amgylch adeilad newydd sbon Ysgol Gwyddorau Môr Prifysgol Bangor. Bydd cerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd a bydd Drymbago yn perfformio ar yr iard gychod gyda’r nos cyn i’r Ŵyl ddirwyn i ben gyda thân gwyllt dros y Fenai.

Meddai Cadeirydd yr Ŵyl, David Evans: “Sefydlwyd Gŵyl Bwyd Môr Menai yn 2012 er mwyn dathlu ein treftadaeth arfordirol, gan gyfuno pysgod a bwyd môr gyda gweithgareddau addysgiadol, celf a diwylliant. Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o’r digwyddiad ac mae’r Ŵyl yn gyfle gwych i roi llwyfan i gerddorion o Gymru.

“Rydym yn hynod falch o gael perfformwyr mor adnabyddus a thalentog ar arlwy’r cyngerdd agoriadol. Mae’n argoeli i fod yn noson ardderchog ac yn gychwyn teilwng i beth fydd yn Ŵyl hynod lwyddiannus eto eleni.”

Mae’r tocynnau ar gael yn awr ym Mwyty Dylan’s, Porthaethwy. Mae tocynnau hefyd ar werth ar gyfer y dydd Sadwrn, ac yn costio £3 i oedolion, £2 consesiynau. Mae mynediad i blant o dan 12 am ddim.

Gwledd bwyd môr

Byddwn yn cynnal noson arbennig ar y 3ydd o Fawrth – gwledd o fwyd môr, gwin a noswaith o adloniant yng nghwmni siaradwyr gwadd ym Mwyty Dylan’s Porthaethwy. Mae’r tocynnau’n £60 y pen i gynnwys pum cwrs gyda gwin. Bydd yr elw’n mynd tuag at gostau’r Wyl. Mae hon yn noson boblogaidd bob blwyddyn, felly peidiwch â cholli allan – archebwch eich tocynnau trwy ffonio’r bwyty ar 01248 716714.

330003 Seafood Dinner

Cyhoeddi Dyddiad Gŵyl Bwyd Môr Menai 2016

Mae’r dyddiad ar gyfer Gŵyl Bwyd Môr Menai 2016 wedi ei gyhoeddi. Bydd yr Ŵyl, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Awst, gyda Chyngerdd yr Ŵyl ym Mhier y Tywysog ar noswyl y digwyddiad.

Sefydlwyd y digwyddiad blynyddol hwn bedair blynedd yn ôl er mwyn hybu’r diwydiant pysgota lleol, hyrwyddo cynnyrch lleol a dathlu treftadaeth arfordirol Ynys Môn.

Unwaith eto eleni, bydd yr Ŵyl ym Mhorthaethwy yn cynnig gweithgareddau i’r teulu oll gydag arddangosiadau bwyd, marchnad cynnyrch lleol, cerddoriaeth fyw a darlleniadau barddoniaeth, a sesiynau rhyngweithiol i blant.

Bydd rhaglen addysg yr Ŵyl yn cael ei rhedeg ymlaen llaw lle bydd cogyddion, biolegwr y môr, beirdd a darlunwyr yn cynnal gweithdai mewn chwe ysgol leol. Bydd y gweithdai hyn yn addysgu pobl ifanc am fwyd, amgylchedd a threftadaeth arfordir gogledd orllewin Cymru. Bydd gwaith celf a gynhyrchir gan y bobl ifanc fel rhan o’r rhaglen yn cael ei arddangos o amgylch y dref cyn yr Ŵyl.

Trefnir yr Ŵyl gan grŵp o fusnesau a gwirfoddolwyr lleol ar y cyd â Grŵp Bwyd Gorau Môn, Marchnad Ffermwyr Ynys Môn a Grŵp Gweithredu Pysgodfeydd Lleol Gwynedd a Môn.

Caiff y pwyllgor ei gadeirio gan David Evans a Phil Austin. Meddai David, o Fwyty Dylan’s a helpodd i sefydlu’r digwyddiad a chadeirio’r 2 ŵyl gyntaf: “Rwy’n hynod falch o fod yn cyd-gadeirio’r Ŵyl eto eleni. Mae’r digwyddiad wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae’n deg dweud ei fod bellach yn un o uchafbwyntiau’r calendr digwyddiadau bwyd yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r tair Gŵyl ddiwethaf wedi denu cyfanswm o fwy na 45,000 o ymwelwyr ac amcangyfrifif bod mwy na £750,000 wedi cael ei wario’n uniongyrchol yn ystod y diwgyddiadau. Hefyd, mae pysgotwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr lleol wedi cael cyfle i arddangos eu cynnyrch ac i ddatblygu eu busnesau. Mae’r Ŵyl hefyd wedi helpu i gryfhau delwedd Porthaethwy fel cyrchfan ardderchog ar gyfer bwyd.”

Ychwanegodd: “Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai yn ddigwyddiad ddim er elw ac rydym yn hynod lwcus o gael cefnogaeth gan nifer o noddwyr a gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser am ddim. Ond y nod yw gwneud y digwyddiad mor gynaliadwy â phosibl ar gyfer y dyfodol. Gyda hyn mewn golwg ac oherwydd cyfyngiadau cyllidol, byddwn yn codi tâl mynediad bychan eleni o £3 i oedolion, £2 consesiynau, a mynediad i blant am ddim. Bydd hyn yn ein helpu tuag at gostau’r digwyddiad ac i wneud yn siŵr y gall barhau i ddigwydd yn y dyfodol.”

Bydd swper codi arian yn cael ei gynnal yn Dylan’s Porthaethwy ar 3 Mawrth. Mae’r tocynnau yn £60 y pen a fydd yn cynnwys 5 cwrs, gwin a siaradwyr gwadd. Gellir archebu tocynnau trwy ffonio’r bwyty ar 01248 716714.

Bydd mwy o wybodaeth am yr Ŵyl yn cael ei rhoi ar y wefan, www.menaiseafoodfestival.com, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Cynhelir cyfarfod cyntaf pwyllgor yr Ŵyl ddydd Mercher 17 Chwefror am 6.30 yn y Ganolfan Gymunedol ym Mhorthaethwy. Mae croeso i unrhyw un sydd yn awyddus i helpu a gwirfoddoli gyda’r digwyddiad fynychu’r cyfarfod.

Gŵyl Bwyd Môr Menai 2015: môr o bobl er gwaetha’r glaw!

Daeth y nifer mwyaf erioed o ymwelwyr i Ŵyl Bwyd Môr Menai a gynhaliwyd am y drydedd flwyddyn yn olynol er gwaetha’r glaw.

Thank you to We Are Anglesey for the photographs. https://www.facebook.com/WeAreAnglesey

Thank you to We Are Anglesey for the photographs. https://www.facebook.com/WeAreAnglesey

Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai, a gynhaliwyd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn ar 22 Awst, yn dathlu’r amrywiaeth o bysgod a bwyd môr sydd ar gael yn rhwydd ar lannau Gogledd Cymru gydag arlwy anhygoel o stondinau bwyd blasus, stondinau celf a chrefft, arddangosiadau coginio a cherddoriaeth fyw.

Dywedodd Phil Austin, Cadeirydd Gŵyl Bwyd Môr Menai, “Daeth y nifer mwyaf erioed i’r ŵyl eleni er gwaetha’r tywydd eithaf garw. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y gwerthwyr bwyd lleol gyda hyd yn oed mwy o sylw’n cael ei roi i fwyd môr lleol. Chwyddodd ôl troed y digwyddiad i gynnwys sawl pabell fawr yn cael eu defnyddio gan Westy’r Bull Biwmares, Chateau Rhianfa a Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Gwynedd a Môn (FLAG). Bu’r arddangosiadau coginio’n llwyddiant ysgubol yn ogystal â ras chwibanoglau Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn o Bier y Tywysog am y tro cyntaf erioed.”

Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai yn ddigwyddiad cwbl rad ac am ddim ac mae ei llwyddiant yn dibynnu ar gymorth gan wirfoddolwyr a chefnogaeth gan fusnesau lleol. Eleni, rhoddwyd gwerthfawrogiad i Westy’r Bull Biwmares, Chateau Rhianfa, RibRide, Land and Lakes a Phlas Coch am ariannu’r digwyddiad fel y noddwyr platinwm; gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn darparu cymorth rhagorol yn ariannol ac yn weithredol unwaith eto eleni.

Dywedodd Phil Scott o Deithiau Cwch Antur RibRide a Chadeirydd Fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru, “Bu’r Ŵyl Bwyd Môr yn wych; daeth llwyth o bobl a bu’n ddigwyddiad penigamp nid yn unig i Ynys Môn ond yn ddiwrnod allan pleserus iawn i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd. Roedd ein teithiau arbennig ar gychod RibRide wedi gwerthu allan erbyn amser cinio a chynhaliwyd y teithiau bob 15 munud nes bron â bod yn 6pm. Mae pawb wrth eu boddau’n mynd o dan y pontydd a gweld ein hynys brydferth o’r Fenai.”

Yn ogystal, dywedodd David Robertson o fwyty enwog, arobryn y Bull Biwmares, “Roedd hi’n wych cael bod yn rhan o’r digwyddiad anhygoel hwn am y tro cyntaf. Roeddem yn falch iawn o’r cyfle i arddangos cynnyrch Ynys Môn o’r radd flaenaf a safon y Bull Biwmares. Diolch i drefnwyr yr ŵyl am eu gwaith caled ac i bawb a ymunodd â ni ar y diwrnod.”

Thank you to We Are Anglesey for the photographs. https://www.facebook.com/WeAreAnglesey

Thank you to We Are Anglesey for the photographs. https://www.facebook.com/WeAreAnglesey

Bu hefyd cynrychiolaeth gan yr elusennau sy’n helpu i gynnal harddwch naturiol glannau Ynys Môn wrth gefnogi ein cymunedau pysgota. Roedd RNLI Porthaethwy’n rhoi cyfle i’r cyhoedd gefnogi’r elusen a dysgu rhagor am waith y sefydliad sy’n achub bywydau. Dywedodd Alex Marjoram o RNLI, “Bu’r croeso a gafodd yr RNLI yng Ngŵyl Bwyd Môr Menai yn galonogol gyda thros ugain o aelodau’r cyhoedd o’u gwirfodd yn dewis i fod yn gefnogwyr rheolaidd newydd i’r elusen. Rydym yn edrych ymlaen at fynd y flwyddyn nesaf.”

Mae tîm Gŵyl Bwyd Môr Menai wedi’u canmol gan aelodau o’r cyhoedd am drefniadau di-fai’r ŵyl ac am ddarparu achlysur sy’n uno’r gymuned gyfan. I lawer yn Ynys Môn a’r ardaloedd cyfagos, mae Gŵyl Bwyd Môr Menai bellach wedi dod yn ddyddiad pwysig yn y calendr sy’n rhy dda i’w golli. Gyda pharatoadau eisoes ar y gweill ar gyfer 2016, heb os nac oni bai ni fydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn eich siomi!

Best interactive charity awarded to the Owl Rescue

Mae\\\’n ddrwg gen i, does dim ar gael yn Gymraeg

Cerddoriaeth ar Bier Sant Siôr drwy’r dydd! Dewch draw!

10am – 11am –  Menai Brass Band

11.15am – 11.45am – Bloco Swn

12 – 1pm – Menai Brass Band

2pm – 3pm – Pon’ Bro

3pm – 4pm – Fleur De Lys  

4pm – 5pm – Y Boncathod

MBB       FDL     Bloco-swn-logo

Coginiwch gydag Arddangosiadau Byw yng Ngŵyl Bwyd Môr Menai 2015

Afraid dweud drwy Ŵyl Bwyd Môr Menai 2015, fe wnaiff ymwelwyr sylweddoli pa mor fendithiol yr ydym o allu cael y fath safon uchel o bysgod lleol a bwyd môr ar ein glannau. Fodd bynnag, hoffem i bob un ymwelydd allu mynd â’r teimlad hwn gartref gyda nhw i rannu gyda ffrindiau ac anwyliaid. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno arddangosiadau coginio byw drwy’r dydd gan gogyddion arobryn ac arbenigwyr ar fwyd môr i ysbrydoli ein rhanbarth i goginio tra’n gwneud y mwyaf o gynnyrch lleol o safon uchel.

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Gwynedd a Môn, ynghyd â phrif noddwyr y digwyddiad, wedi’n cynorthwyo ni i ddod â detholiad na allwch eu methu, gyda rhai yn weithwyr proffesiynol o’r diwydiant, sy’n sicr o annog aelodau’r cyhoedd i drio’r ryseitiau adref.

Un uchafbwynt, diolch i Blas Rhianfa ein prif noddwr, fydd eu Prif Gogydd, Andrew Sheridan, yn dod â dŵr i’n dannedd gyda’i rysáit Tiwna Yuzu o Asia. Mae Andrew yn adnabyddus am ddal pysgod cregyn ffres yn Afon Menai i weini i westai bodlon Plas Rhianfa. Mae ei waith fel Prif Gogydd ym Mhlas Rhianfa wedi eu cynorthwyo i gael lle yng Nghanllaw Michelin.

Chateau Rhianfa Chefs

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Rowan Clark o Goleg Menai, Bryan Webb o Dyddyn Llan, Michael Evans o Dîm Coginio Cymru, Ellis Barrie o The Marram Grass a Lisa Fearn o Pumpkin Patch gyda’i harddangosiadau coginio i annog plant i ymuno hefyd!

Am ein hamserlen lawn o arddangosiadau coginio ac i lawrlwytho cardiau rysáit, cliciwch yma.