Horizon yn cefnogi Gŵyl Bwyd Môr Menai

David Evans & Richard Foxhall-1

Heddiw (11 Awst), mae Pŵer Niwclear Horizon wedi cyhoeddi nawdd o £2,000 i’r Ŵyl Bwyd Môr Menai boblogaidd ar Ynys Môn.

Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai, a gynhelir am ddim ar ddydd Sadwrn 20 Awst ym Mhorthaethwy, yn dathlu treftadaeth arfordirol Ynys Môn, a’r doreth o fwyd môr lleol sydd ar gael o amgylch yr ynys. Mae’r sioe yn cynnwys arddangosiadau coginio, marchnad cynnyrch ac adloniant i’r hen a’r ifanc – yn ogystal â digon o bethau i’w bwyta. Mae’n ŵyl fwyd allweddol yng nghalendr digwyddiadau bwyd gogledd Cymru.

Cafodd Gŵyl Bwyd Môr Menai, a gynhaliwyd am y tro cyntaf ym mis Awst 2013, ei sefydlu gan grŵp o drigolion a busnesau ym Mhorthaethwy er mwyn hyrwyddo’r diwydiant pysgota lleol. Ers hynny mae’r Ŵyl Fwy Môr wedi mynd o nerth i nerth, ac yn denu dros 10,000 o ymwelwyr yn rheolaidd.

Bydd nawdd Horizon yn cefnogi Gŵyl Bwyd Môr Menai am flwyddyn arall, a bydd aelodau o’r tîm yno i dynnu sylw at ymgynghoriad nesaf y cwmni ar y cynigion diweddaraf ar gyfer Wylfa Newydd, sy’n cael ei lansio ddydd Mercher 31 Awst.

Dywedodd Greg Evans, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynhyrchu Horizon: “Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr coginio Ynys Môn, ac yn ffordd o ddathlu’r cyfoeth o fwyd môr sydd ar gael yn y môr yma, yn ogystal â bywyd yr ynys ei hun hefyd. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Ŵyl Fwyd Môr a chydnabod pa mor bwysig yw hi i’r gymuned leol a’r busnesau ledled Ynys Môn. Byddwn ni yno hefyd eleni i ateb eich cwestiynau am Wylfa Newydd a’n hymgynghoriad cyhoeddus nesaf, felly galwch heibio i gwrdd â’r tîm.”

Dywedodd David Evans, Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Bwyd Môr Menai: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Horizon am ei gyfraniad a’i gefnogaeth. Mae Wylfa Newydd yn ddatblygiad sylweddol yma ar Ynys Môn, ac mae’n galonogol iawn gweld bod Horizon yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol.

“Fel digwyddiad cymunedol dielw, rydym yn dibynnu’n llwyr ar nawdd a rhoddion i dalu ein costau a gwneud yn siŵr y gallwn barhau i gynnal yr Ŵyl flwyddyn ar ôl blwyddyn. Heb haelioni ein noddwyr a’n tîm arbennig o wirfoddolwyr, ni fyddai modd i ni gynnal y digwyddiad.”

Mae cynllun Rhoddion Elusennol, Cymorth Cymunedol a Nawdd Horizon yn darparu cyllid i elusennau, prosiectau a grwpiau lleol. Cyfrannodd y cwmni datblygu gorsaf bŵer arfaethedig dros £100,000 o gyllid eleni, gan sicrhau budd i tua 60 o achosion da. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth cymunedol Horizon, a sut mae gwneud cais am gyllid yn: http://www.horizonnuclearpower.com/cefnogir-gymuned.

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau Horizon i adeiladu Wylfa Newydd, gan gynnwys ei ymgynghoriad nesaf, ewch i: www.horizonnuclearpower.com/ymgynghoriad.

Gall pobl leol gyfarfod â thîm Horizon hefyd yn y Gymhorthfa Agored nesaf ddydd Llun 15 Awst yn Neuadd Bentref Cemaes. Bydd y tîm ar gael rhwng 1pm a 7pm.

Comments are closed.