Gwirfoddoli
Gwirfoddolwch yng Ngŵyl Bwyd Môr Menai
Rydym yn chwilio am bobl all ein helpu yn y cyfnod hyd at y digwyddiad, yn ystod digwyddiad ac ar ôl iddo orffen.
Mae gwirfoddoli’n ffordd ardderchog o dreulio rhywfaint o’ch amser sbâr. Dewch yn wirfoddolwr a:
- Dysgwch sgiliau newydd neu rhannwch beth yr ydych yn ei wybod ag eraill
- Dewch i fod yn rhan o un o’r digwyddiadau sy’n tyfu gyflymaf yng Ngogledd Cymru
- Ychwanegwch rywbeth nodedig i’ch CV
- Gwnewch ffrindiau diddorol, sydd o’r un meddwl â chi
- Mwynhewch fwrlwm y diwrnod!
Os hoffech wirfoddoli yng Ngŵyl Bwyd Môr Menai eleni, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.