Amdanom ni

OystersSefydlwyd Gŵyl Bwyd Môr Menai yn 2013 i hyrwyddo’r diwydiant pysgota lleol ac i ailgysylltu pobl â holl amrywiaeth y pysgod a’r bwyd môr o safon sydd ar gael o lannau Gogledd Cymru.

Daeth mwy na 10,000 i’r digwyddiad cyntaf yn Awst 2013 ac ers hynny mae wedi tyfu’n flynyddol a bellach yn un o uchafbwyntiau calendar bwyd Gogledd Cymru.

Digwyddiad di-elw ydi Gŵyl Bwyd Môr Menai, sy’n cael ei redeg gan bwyllgor o drigolion a busnesau lleol o Borthaethwy a’r cyffiniau. Fe’i trefnir ar y cyd â Grŵp Bwyd Gorau Môn, Marchnad Ffermwyr Ynys Môn a Grŵp Gweithredu Pysgodfeydd Lleol Ynys Môn, ac fe’i cefnogir trwy nawdd gan nifer o sefydliadau.

Os allwch chi ein helpu i redeg y digwyddiad hwn, rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr, rhoddion a noddwyr.

I gysylltu â ni, cliciwch yma.

Comments are closed.