Mwy na 200 o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen addysg

Mae disgyblion o saith ysgol gynradd yn Ynys Môn wedi bod yn dysgu am amgylchedd a bywyd y dyfroedd lleol, diolch i dîm Gŵyl Bwyd Môr Menai.

Mae mwy na 200 o blant wedi cymryd rhan yn rhaglen addysg yr Ŵyl sydd yn dysgu pobl ifanc am bwysigrwydd gwarchod a gwella’r amgylchedd arfordirol.

Noddwyd y rhaglen gan Ystadau Mostyn, a’r bwriad yw cyfuno addysg forol gyda choginio a chelf. Mae gweithdai wedi eu cynnal yn y saith ysgol gynradd yn nalgylch Porthaethwy, lle bydd yr Ŵyl Bwyd Môr yn cael ei chynnal am y pedwaredd flwyddyn yn olynol.

Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys sesiynau gan fiolegydd morol o Sŵ Môr Môn ynghylch effaith sbwriel ar yr arfordir a phwysigrwydd ailgylchu. Hefyd fel rhan o’r prosiect, cynhaliwyd sesiynau coginio a blasu gyda chogyddion Dylan’s a Denise Baker o Moel Faban Suppers i ddysgu sut i baratoi a mwynhau pysgod a bwyd môr lleol, a sesiynau celf lle cafodd y plant gyfle i greu pysgod lliwgar gan ddefnyddio hen boteli plastig a deunyddiau eraill wedi eu hailgylchu. Bydd y pysgod yn cael eu defnyddio i greu bynting deniadol i addurno safle’r Ŵyl.

Meddai Cadeirydd yr Ŵyl, David Evans: “Mae addysg yn elfen ganolog o’r digwyddiad. Sefydlwyd yr Ŵyl yn ôl yn 2013 i godi ymwybyddiaeth o’r cynnyrch ardderchog sydd ar gael oddi ar arfordir Môn, ac i bwysleisio mor bwysig yw gwarchod ein treftadaeth ac amgylchedd arfordirol.

“Rydyn ni’n hynod falch bod yr ysgolion lleol wedi cymryd rhan yn y rhaglen addysg eto eleni, ac mae’n wych fod cymaint o blant wedi cael cyfle i fwynhau’r gweithdai.”

Y saith ysgol a gymerodd ran oedd: Beaumaris, Llandegfan, Llanddaniel, Llangoed, Llanfairpwll, Porthaethwy a Phentraeth.

Meddai Mrs Gwyneth Môn Hughes, Pennaeth Ysgol Gynradd Beaumaris: “Mae’r gweithdai hyn wedi bod yn arbennig o fuddiol i’r plant. Maen nhw wedi cael cyfle i flasu a dysgu am y math o fwydydd môr sydd ar gael ar y stepan drws, a gobeithio y bydd hynny’n eu hannog i barhau i goginio a bwyta pysgod a bwyd môr yn y dyfodol.

“Mae’r sesiynau hefyd wedi eu dysgu am yr amgylchedd lleol a pha mor bwysig ydyw i ailgylchu ac ailddefnyddio er mwyn cadw ein harfordir yn lân.

“Yr hyn sy’n grêt am raglen addysg Gŵyl Bwyd Môr Menai yw ei bod yn clymu’n berffaith gyda’r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth, daearyddiaeth a chelf felly gallwn adeiladu ar yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu trwy weithgareddau ychwanegol yn yr ysgol. “

Comments are closed.