Newyddion - Page 2 of 3 - Gŵyl Bwyd Môr Menai | 2017 dyddiad dod yn fuan

Paradwys Belagig, Plas Coch: Prif Noddwr Gŵyl Bwyd Môr Menai 2015

Mae parc gwyliau Plas Coch, Ynys Môn yn ymfalchïo mewn moethusrwydd 5-seren wedi’i amgylchynu gan olygfeydd hardd a braf gyda golygfeydd ar hyd yr arfordir, i Eryri a thu hwnt. Yn drysor i’r ynys ei hun, mae Plas Coch wedi ei gynllunio i roi cyfleoedd diddiwedd i ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau i ddatgelu hyd yn oed fwy o emau Môn.

plas coch Read More

Cyflwyno Land & Lakes fel un o Brif Noddwyr Gŵyl Bwyd Môr Menai 2015

Mae Land and Lakes yn gwmni sy’n datblygu lleoedd hamdden a phreswyl fel neb arall. Mae eu hethos yn seiliedig ar warchod tirweddau naturiol wrth gyflwyno etifeddiaeth sy’n adfywio cymunedau lleol a gwella’r economi.

Llyn Y Dywarchen a fishing lake in summer in Snowdonia National Park North Wales

Mae eu gweledigaeth ddiweddaraf yn ymestyn ledled glannau Môn lle maent yn cynllunio i ddatblygu lle gwyliau a phentref hamdden cyfeillgar gyda thai preswyl cysylltiedig ger Caergybi ar Ynys Cybi. Gyda’u hestyniad newydd, bydd Land and Lakes yn rhoi llety effeithlon ac yn ateb i drafnidiaeth nifer sylweddol o weithwyr a fydd yn adeiladu a gwasanaethu yng ngorsaf bŵer newydd Wylfa rhyw 12 milltir i ffwrdd. Read More

Ras Hwyaid RibRide 2015 – Pont Britannia i Bont Menai

Teflir mil o hwyaid plastig melyn i’r Afon Fenai yn ‘Ras Hwyaid RibRide’, a gaiff ei chynnal rhwng y pontydd ar ddydd Sul, 23 Awst 2015, o 11.30am. Noddwch Hwyaden am £2 o swyddfa RibRide neu galwch yn stondin SG21 RibRide, ger Pier San Siôr, yng Ngŵyl Bwyd Môr Menai ar ddydd Sadwrn, 22 Awst.

Dywed Phil Scott, Teithiau Cwch Antur RibRide: “Llynedd bu i ni godi £900 i Gymorth Canser Macmillan. Mae ein noddwyr gwobrau wedi rhoi pedair gwobr wych eleni ar gyfer yr enillwyr. Roedd yn hwyl gyrru’r hwyaid ar eu hantur ac yn dipyn o her i bigo pob hwyaden i fyny wrth iddynt lifo o dan Bont Menai. Llwyddodd rhwydi mawr a dyfalbarhad i ni fedru dal pob hwyaden a chodi arian ar gyfer elusen sy’n agos iawn at fy nghalon.” Read More

Mae Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn rhan o Ŵyl Bwyd Môr Menai 2015

Mae Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn yn falch iawn o fod yn rhan o Ŵyl Bwyd Môr Menai am y tro cyntaf eleni gan gynnal ras hwylio glasurol ym Mhorthaethwy gyda sylwebaeth a lluniau camera’n cael eu darlledu’n fyw i wylwyr.

RAYC

Camwch yn ôl mewn hanes a gwylio’r cychod clasurol bendigedig hyn yn hwylio ar y dŵr. Cawsant eu hadeiladu bron i ganrif yn ôl. Y ddau ddosbarth o gwch a fydd yn rasio fydd y Fife One Design a’r Menai Strait One Design (MSOD), a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer rasio yma yng Ngogledd Cymru. Cafodd y First Fife ei greu yn yr 1920au a’r MSOD cyntaf yn yr 1930au, pan oedd hwylio ar ei anterth. Fel clwb rydym yn falch o fedru rhannu ein hangerdd tuag at ein hamgylchedd naturiol a’r brwdfrydedd tuag at y cychod hwylio godidog hyn. Read More

Mozart Menai – Tocynnau ar werth nawr

A3_postarensembleV3

Neidiwch y ciw i fwyta yng Ngwesty’r Bull yn ystod Gŵyl Bwyd Môr Menai

Mae Bwyty’r Bull ym Miwmares wedi datblygu enw da o ran cynnig profiad bwyta o’r radd flaenaf a chofiadwy wrth ddefnyddio cynnyrch lleol o lannau Ynys Môn. Yn dilyn tair gwobr rhoséd AA, mae galw mawr i archebu bwrdd yn y bwyty ysblennydd hwn a allai olygu nad ydych wedi manteisio ar giniawa yn y Bull tan yn awr.

Fel rhan o Ŵyl Bwyd Môr Menai, bydd y Bull yn cynnal eu bwyty ‘gwib’ eu hunain gan roi cyfle i nifer cyfyngedig o ymwelwyr lwcus brofi eu bwydlen nos gan ddod â dŵr i’ch dannedd wrth edrych ar olygfeydd trawiadol y Fenai. Gyda bwydlen 7 cwrs grefftus, yn defnyddio dim ond y cynhwysion lleol o’r ansawdd uchaf, gyda chyfeiliant cerddoriaeth fyw a lleoliad mawreddog Pier y Tywysog ym Mhorthaethwy, bydd y byrddau’n llenwi mewn chwinciad, mae hynny’n sicr. Read More

Byddwch yn barod am Daith Cychod Antur Rhif 1 Ynys Môn

Os ydych yn chwilio am argymhelliad ar gyfer diwrnod allan llawn hwyl i’r teulu, fel arfer ni fyddech yn trafferthu edrych ymhellach na trip advisor am ychydig o adolygiadau ‘di-flewyn ar dafod’ gan unigolion o’r un meddylfryd Felly mae Rib Rides ym Mhorthaethwy yn eich annog i fynd ar safle trip advisor yn awr a darllen yr adborth am eu teithiau cychod antur a phenderfynu dros eich hun os ydych yn dymuno ‘rhoi cynnig arni’.

ribride

Diolch i’r adborth canmoliaethus gan eu gwesteion, mae Rib Rides wedi derbyn dros 300 o adolygiadau rhagorol yn cyfeirio at eu teithiau cwch sy’n gwibio i fyny ac i lawr y Fenai. Read More

Adolygiadau ymwelwyr

Dyma ychydig o adolygiadau gan ymwelwyr Gŵyl Bwyd Môr Menai yn ystod y blynyddoedd sydd wedi mynd heibio:

“Hoffwn longyfarch bob un ohonoch am ddiwrnod wedi’i drefnu’n rhagorol ddoe – llwyddoch i gynnwys y gymuned leol gyfan a denu torfeydd o ymwelwyr ac roedd y dalwyr stondinau yn gwneud masnach ffyniannus, llwyddiant i bawb!” – Maggie Roberts

“Dim ond eisiau dweud da iawn pawb! Cawsom ddiwrnod gwerth chweil yn yr Ŵyl, awyrgylch gwych, bwyd gwych, a stondinau gwych! Roedd y bwyd ffres yn anhygoel, yr arddangosiadau coginio yn ysbrydoliaeth ac roedd yna fwrlwm yn yr holl ddigwyddiad. Roedd pawb i’w gweld yn hapus (roedd y tywydd o’n plaid) ac fe adawom yn grediniol, mi fyddwn yn ôl y flwyddyn nesaf. Yn amlwg roedd llawer o ymdrech a pharatoi wedi’i wneud ymlaen llaw; roedd y canlyniad yn dweud y cyfan.” – Nick a Raid Rushbrooke

“Da iawn! Diwrnod penigamp. Wedi’i drefnu’n dda iawn, llawer o bethau gwych i’w gweld a’u blasu. Llongyfarchiadau i bawb!” – Rebecca Whitfield

­Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig! Dewch draw i’r ŵyl eleni ar ddydd Sadwrn 22 Awst 2015 a chanfyddwch drosoch eich hun.

Dathlu cysylltiad gogledd Cymru gyda’r môr

zyrb010913seafoodfest-13jpg-5829580

Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai, yn awr yn ei thrydedd blwyddyn, yn gyflym yn dod yn ddigwyddiad pwysig y nghalendr bwyd Môn. Nid yw eleni yn eithriad wrth iddi gydweithio am y tro cyntaf gydag Wythnos Forol Môn (17-23ain Awst) i gefnogi a dathlu y gorau o fwyd môr lleol, cadwraeth morol a threftadaeth arfordirol gogledd Cymru. Read More

Poster – Gŵyl Bwyd Môr Menai 2015

MSF2015_poster_A4_high