Food

Neidiwch y ciw i fwyta yng Ngwesty’r Bull yn ystod Gŵyl Bwyd Môr Menai

Mae Bwyty’r Bull ym Miwmares wedi datblygu enw da o ran cynnig profiad bwyta o’r radd flaenaf a chofiadwy wrth ddefnyddio cynnyrch lleol o lannau Ynys Môn. Yn dilyn tair gwobr rhoséd AA, mae galw mawr i archebu bwrdd yn y bwyty ysblennydd hwn a allai olygu nad ydych wedi manteisio ar giniawa yn y Bull tan yn awr.

Fel rhan o Ŵyl Bwyd Môr Menai, bydd y Bull yn cynnal eu bwyty ‘gwib’ eu hunain gan roi cyfle i nifer cyfyngedig o ymwelwyr lwcus brofi eu bwydlen nos gan ddod â dŵr i’ch dannedd wrth edrych ar olygfeydd trawiadol y Fenai. Gyda bwydlen 7 cwrs grefftus, yn defnyddio dim ond y cynhwysion lleol o’r ansawdd uchaf, gyda chyfeiliant cerddoriaeth fyw a lleoliad mawreddog Pier y Tywysog ym Mhorthaethwy, bydd y byrddau’n llenwi mewn chwinciad, mae hynny’n sicr. Read More

Chateau Rhianfa wedi ei enwi’n ‘Fwyty Gwesty Gorau’r Flwyddyn 2015′

Enillodd un o noddwyr premiwm eleni, Chateau Rhianfa, wobr ‘Bwyty Gwesty Gorau’r Flwyddyn’ yn ddiweddar yn y seremoni agoriadol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

Chateau Rhianfa

Daeth y gwesty a’r bwyty ysblennydd hwn, sy’n edrych dros y Fenai, i’r brig er gwaethaf cystadleuaeth gryf o blith miloedd o enwebeion eraill yn y digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngwesty Holland House Mercure Caerdydd ar y 12fed o Fai 2015.

Dywedodd Martin Page, rheolwr cyffredinol Château Rhianfa ei bod yn anrhydedd derbyn y fath wobr llawn bri, “Yr ydym yn hynod falch dweud bod Ynys Môn bellach yn gartref i Fwyty Gwesty Gorau Cymru, a heb amheuaeth, talent a gwaith caled Andrew a’i dîm sy’n cynnig bwyd a gwasanaeth o’r safon gorau i giniawyr, sydd i’w gyfrif am hynny.”

Canmolwyd Chateau Rhianfa am y profiad ciniawa o safon uwch a gynigir i’w cwsmeriaid, tra’n gweini cynhwysion lleol, lle bo’n bosibl, gan gynnwys pysgod ffres a chimwch o’r Fenai. Bydd cynnyrch lleol o’r fath yn cael ei arddangos yng Ngŵyl Bwyd Môr Menai eleni gyda sioe o samplau bwyd i dynnu dŵr i ddannedd ein tyrfaoedd o ymwelwyr. Bydd y tîm talentog o Chateau Rhianfa hefyd yn cynnig arddangosiadau coginio byw i ysbrydoli’r gymuned leol i fwrw ati i goginio, gan ddefnyddio’r cynnyrch o safon uchel sydd wrth garreg eu drws.

Am ragor o wybodaeth am Chateau Rhianfa ewch at: www.chateurhianfa.com