Demonstrations

Chateau Rhianfa wedi ei enwi’n ‘Fwyty Gwesty Gorau’r Flwyddyn 2015′

Enillodd un o noddwyr premiwm eleni, Chateau Rhianfa, wobr ‘Bwyty Gwesty Gorau’r Flwyddyn’ yn ddiweddar yn y seremoni agoriadol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

Chateau Rhianfa

Daeth y gwesty a’r bwyty ysblennydd hwn, sy’n edrych dros y Fenai, i’r brig er gwaethaf cystadleuaeth gryf o blith miloedd o enwebeion eraill yn y digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngwesty Holland House Mercure Caerdydd ar y 12fed o Fai 2015.

Dywedodd Martin Page, rheolwr cyffredinol Château Rhianfa ei bod yn anrhydedd derbyn y fath wobr llawn bri, “Yr ydym yn hynod falch dweud bod Ynys Môn bellach yn gartref i Fwyty Gwesty Gorau Cymru, a heb amheuaeth, talent a gwaith caled Andrew a’i dîm sy’n cynnig bwyd a gwasanaeth o’r safon gorau i giniawyr, sydd i’w gyfrif am hynny.”

Canmolwyd Chateau Rhianfa am y profiad ciniawa o safon uwch a gynigir i’w cwsmeriaid, tra’n gweini cynhwysion lleol, lle bo’n bosibl, gan gynnwys pysgod ffres a chimwch o’r Fenai. Bydd cynnyrch lleol o’r fath yn cael ei arddangos yng Ngŵyl Bwyd Môr Menai eleni gyda sioe o samplau bwyd i dynnu dŵr i ddannedd ein tyrfaoedd o ymwelwyr. Bydd y tîm talentog o Chateau Rhianfa hefyd yn cynnig arddangosiadau coginio byw i ysbrydoli’r gymuned leol i fwrw ati i goginio, gan ddefnyddio’r cynnyrch o safon uchel sydd wrth garreg eu drws.

Am ragor o wybodaeth am Chateau Rhianfa ewch at: www.chateurhianfa.com