Rhaglen

Dydd Gwener 19 Awst

Cyngerdd yr Ŵyl

Tocynnau: £15, £10 consesiynau

Ar Noswyl yr Ŵyl, bydd cyngerdd mawreddog ar Bier y Tywysog, Porthaethwy. Cliciwch yma am fwy o fanylion.

Dydd Sadwrn 20 Awst

Amser: 10am – 5pm

Tocynnau: Am ddim – Gofynnir yn garedig am gyfraniad gwirfoddol o £3 wrth y fynedfa

Eto eleni, bydd yr Ŵyl yn cynnwys oddeutu 100 o stondinau gan ffermwyr lleol, pysgotwyr a chynhyrchwyr lleol yn arddangos rhai o’r cynnyrch gorau, o dir a môr, sydd gan Môn a Gogledd Cymru i’w cynnig. Yn ychwanegol, bydd rhai o gogyddion mwyaf enwog Gogledd Cymru, ynghyd â chyw gogyddion yr ardal, yn rhannu ryseitiau blasus, awgrymiadau a thechnegau fel rhan o arddangosiadau coginio byw drwy gydol y dydd.

5pm-10.30pm

Bydd yr adloniant yn parhau wedi i’r stondinau gau gyda cherddoriaeth fyw ar yr iard gychod gan Cordia, Kizzy Crawfrod, Tenovus Choir, Drymbago, and Gary Roberts. Daw’r diwrnod i ben gyda thân gwyllt dros y Fenai.

Comments are closed.