Cefndir

thumbnail4Cefndir Gŵyl Bwyd Môr Menai       

Cynhaliwyd Gŵyl Bwyd Môr Menai am y tro cyntaf ym Mhorthaethwy yn Awst 2013, a llwyddodd i ddenu dros 10,000 o bobl. Cafwyd y llwyddiant hwn unwaith eto yn 2014, a bron yn syth, mae gŵyl fwyd newydd wedi sefydlu ei hun fel ffefryn blynyddol.

Digwyddiad di-elw ydy Gŵyl Bwyd Môr Menai, sy’n cael ei redeg gan bwyllgor o drigolion a busnesau lleol o Borthaethwy a’r cyffiniau.

Mae’r digwyddiad wedi llwyddo i ddiogelu nawdd a chefnogaeth gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys: Sŵ Môr Môn; Bwyty Dylan’s; Rib Ride; Waitrose; Cywain; Cyngor Sir Ynys Môn; Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd (FLAG); cwmni ffenestri Peninsula; Prifysgol Bangor/Pontio; CL Jones.

Os allwch chi ein helpu i redeg y digwyddiad hwn, rydym bob amser yn chwilio am  wirfoddolwyr, rhoddion a noddwyr.

Comments are closed.