Wythnos Mor Mon
Gŵyl Bwyd Môr Menai ac Wythnos Forol Môn
Wythnos Forol Môn – Dydd Llun Awst 17 i ddydd Sul Awst 23
Eleni, mae Gŵyl Bwyd Môr Menai yn cyd-daro ag Wythnos Forol Môn. Pa ffordd well i godi awch bwyd arnoch na dysgu mwy am o le mae bwyd môr blasus o’r fath yn dod?
Darganfyddwch fywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethog ein dyfroedd arfordirol. Archwiliwch fywyd glan y môr gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, bywyd gwyllt morol gyda Sŵ Môr Môn, a dewch i weld Pysgodyn Pecyn Fflat (‘Flat Pack’) Rhyfeddol Aquaroots ar Bier y Tywysog ym Mhorthaethwy yn ystod yr Ŵyl Bwyd Môr dydd Sadwrn.
Mae bob diwrnod o Wythnos Forol Môn yn cynnwys digwyddiad yn rhywle ar Ynys Môn – gweler yr amserlen ddigwyddiadau isod. Mae’n sicr y bydd digwyddiad yn agos i chi.
Dydd Llun Awst 17 – Sŵ Môr Môn a Dwyrain Ynys Môn
Dydd Mawrth Awst 18 – Porthaethwy
Diwrnod Glan Môr ym Mhorthaethwy
Digwyddiadau ar gyfer Wythnos Forol Môn @ Pier y Tywysog
Dewch i Bier y Tywysog ym Mhorthaethwy a byddwch yn rhan o weithgareddau llawn pysgod!
1400 Gweithgareddau Glan Môr – hel crancod, tanciau creaduriaid, crefftau, cwisiau, gemau a llawer mwy!
Taith Gerdded Treftadaeth y Glannau
Deifio yn Afon Menai – cychod, offer ac arddangosiadau
1700 – 1800 Swper Bwyd Môr o amgylch Cwch Ynys Gorad Goch
1830 – 2000 Tro Ar Hyd Traeth Caregog Ar Fachlud Haul
2000 Sgwrs â Darluniau am Afon Menai
Gweithio Gyda’n Gilydd: Treftadaeth Menai, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Clwb Deifio Gwynedd
Dysgwch fwy yn http://naturebites.co.uk/anglesey-marine-week/
Dydd Mercher Awst 19 – Moelfre
Dydd Iau Awst 20 – Gogledd Ynys Môn
Dydd Gwener Awst 21 – Biwmares
Dydd Sadwrn Awst 22 – Gŵyl Bwyd Môr Menai
Dydd Sul Awst 23 – Caergybi
Rhagor o fanylion i ddilyn yn fuan.
Mae pob digwyddiad am ddim neu am bris gostyngedig ac mae sawl un ohonynt yn codi arian ar gyfer elusennau dewisedig Wythnos Forol Môn; y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, y RSPB a Sefydliad Sea Watch.
Mae croeso i fusnesau a sefydliadau eraill gyfrannu tuag at Wythnos Forol Môn. Am ragor o fanylion cliciwch yma.