Sut i gyrraedd

Mae Porthaethwy o fewn dwy awr mewn car o Ogledd Orllewin Lloegr ac yn hwylus i’r rhan helaeth o Ogledd Cymru ar hyd ffordd ddeuol yr A55.

Yn ogystal, mae’r dref yn hwylus i’r A487 o gyfeiriad Caernarfon/Porthmadog, neu’r A5 o Fangor.

Mae bysiau lleol sy’n aros ym Mhorthaethwy yn cynnwys  rhifau 4, 4X, 4A, 42, 43, 44, 44A, 53, 57, 58, 62 a 63.

Y gorsafoedd trenau agosaf i Borthaethwy ydi  Llanfairpwll a Bangor, lle ceir gwasanaethau uniongyrchol sy’n cysylltu â chyrchfannau yng Ngogledd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr, siroedd y gororau a Chaerdydd, yn ogystal â Llundain.

Oherwydd cyfleusterau parcio cyfyngedig Porthaethwy, argymhellwn eich bod yn defnyddio ein gwasanaeth Parcio a Theithio.

Comments are closed.