Cyhoeddi Dyddiad Gŵyl Bwyd Môr Menai 2016

Mae’r dyddiad ar gyfer Gŵyl Bwyd Môr Menai 2016 wedi ei gyhoeddi. Bydd yr Ŵyl, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Awst, gyda Chyngerdd yr Ŵyl ym Mhier y Tywysog ar noswyl y digwyddiad.

Sefydlwyd y digwyddiad blynyddol hwn bedair blynedd yn ôl er mwyn hybu’r diwydiant pysgota lleol, hyrwyddo cynnyrch lleol a dathlu treftadaeth arfordirol Ynys Môn.

Unwaith eto eleni, bydd yr Ŵyl ym Mhorthaethwy yn cynnig gweithgareddau i’r teulu oll gydag arddangosiadau bwyd, marchnad cynnyrch lleol, cerddoriaeth fyw a darlleniadau barddoniaeth, a sesiynau rhyngweithiol i blant.

Bydd rhaglen addysg yr Ŵyl yn cael ei rhedeg ymlaen llaw lle bydd cogyddion, biolegwr y môr, beirdd a darlunwyr yn cynnal gweithdai mewn chwe ysgol leol. Bydd y gweithdai hyn yn addysgu pobl ifanc am fwyd, amgylchedd a threftadaeth arfordir gogledd orllewin Cymru. Bydd gwaith celf a gynhyrchir gan y bobl ifanc fel rhan o’r rhaglen yn cael ei arddangos o amgylch y dref cyn yr Ŵyl.

Trefnir yr Ŵyl gan grŵp o fusnesau a gwirfoddolwyr lleol ar y cyd â Grŵp Bwyd Gorau Môn, Marchnad Ffermwyr Ynys Môn a Grŵp Gweithredu Pysgodfeydd Lleol Gwynedd a Môn.

Caiff y pwyllgor ei gadeirio gan David Evans a Phil Austin. Meddai David, o Fwyty Dylan’s a helpodd i sefydlu’r digwyddiad a chadeirio’r 2 ŵyl gyntaf: “Rwy’n hynod falch o fod yn cyd-gadeirio’r Ŵyl eto eleni. Mae’r digwyddiad wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae’n deg dweud ei fod bellach yn un o uchafbwyntiau’r calendr digwyddiadau bwyd yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r tair Gŵyl ddiwethaf wedi denu cyfanswm o fwy na 45,000 o ymwelwyr ac amcangyfrifif bod mwy na £750,000 wedi cael ei wario’n uniongyrchol yn ystod y diwgyddiadau. Hefyd, mae pysgotwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr lleol wedi cael cyfle i arddangos eu cynnyrch ac i ddatblygu eu busnesau. Mae’r Ŵyl hefyd wedi helpu i gryfhau delwedd Porthaethwy fel cyrchfan ardderchog ar gyfer bwyd.”

Ychwanegodd: “Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai yn ddigwyddiad ddim er elw ac rydym yn hynod lwcus o gael cefnogaeth gan nifer o noddwyr a gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser am ddim. Ond y nod yw gwneud y digwyddiad mor gynaliadwy â phosibl ar gyfer y dyfodol. Gyda hyn mewn golwg ac oherwydd cyfyngiadau cyllidol, byddwn yn codi tâl mynediad bychan eleni o £3 i oedolion, £2 consesiynau, a mynediad i blant am ddim. Bydd hyn yn ein helpu tuag at gostau’r digwyddiad ac i wneud yn siŵr y gall barhau i ddigwydd yn y dyfodol.”

Bydd swper codi arian yn cael ei gynnal yn Dylan’s Porthaethwy ar 3 Mawrth. Mae’r tocynnau yn £60 y pen a fydd yn cynnwys 5 cwrs, gwin a siaradwyr gwadd. Gellir archebu tocynnau trwy ffonio’r bwyty ar 01248 716714.

Bydd mwy o wybodaeth am yr Ŵyl yn cael ei rhoi ar y wefan, www.menaiseafoodfestival.com, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Cynhelir cyfarfod cyntaf pwyllgor yr Ŵyl ddydd Mercher 17 Chwefror am 6.30 yn y Ganolfan Gymunedol ym Mhorthaethwy. Mae croeso i unrhyw un sydd yn awyddus i helpu a gwirfoddoli gyda’r digwyddiad fynychu’r cyfarfod.

Comments are closed.