Cyhoeddi arlwy y cyngerdd agoriadol

Mae’r arlwy ar gyfer cyngerdd agoriadol Gŵyl Bwyd Môr Menai wedi ei chyhoeddi.

Bydd Meic Stevens yn dod i ddiddanu’r gynulleidfa, ochr yn ochr â Band Al Lewis, Sera a’r Band a Chôr Ieuenctid Môn.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn adeilad Pier y Tywysog am 6pm nos Wener 19 Awst. Mae’r tocynnau yn £15 i oedolion ac mae tocynnau consesiwn ar gael am £10. Noddir y cyngerdd eleni gan Bangor Mussel Producers.

Ar y dydd Sadwrn, bydd diwrnod llawn o weithgareddau yn cynnwys marchnad bwyd môr a chynnyrch lleol, stondinau bwyd stryd, saffaris glan y môr, celf a chrefft, a theithiau tywys o amgylch adeilad newydd sbon Ysgol Gwyddorau Môr Prifysgol Bangor. Bydd cerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd a bydd Drymbago yn perfformio ar yr iard gychod gyda’r nos cyn i’r Ŵyl ddirwyn i ben gyda thân gwyllt dros y Fenai.

Meddai Cadeirydd yr Ŵyl, David Evans: “Sefydlwyd Gŵyl Bwyd Môr Menai yn 2012 er mwyn dathlu ein treftadaeth arfordirol, gan gyfuno pysgod a bwyd môr gyda gweithgareddau addysgiadol, celf a diwylliant. Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o’r digwyddiad ac mae’r Ŵyl yn gyfle gwych i roi llwyfan i gerddorion o Gymru.

“Rydym yn hynod falch o gael perfformwyr mor adnabyddus a thalentog ar arlwy’r cyngerdd agoriadol. Mae’n argoeli i fod yn noson ardderchog ac yn gychwyn teilwng i beth fydd yn Ŵyl hynod lwyddiannus eto eleni.”

Mae’r tocynnau ar gael yn awr ym Mwyty Dylan’s, Porthaethwy. Mae tocynnau hefyd ar werth ar gyfer y dydd Sadwrn, ac yn costio £3 i oedolion, £2 consesiynau. Mae mynediad i blant o dan 12 am ddim.

Comments are closed.