Archives for MSF

Canolfan Môr Cymru yn agor ei drysau i’r cyhoedd yn ystod Gŵyl Bwyd Môr Menai

Bydd cyfle i unigryw i fynychwyr Gŵyl Bwyd Môr Menai ddydd Sadwrn (20 Awst 2016) ymweld â Chanolfan Môr Cymru ar safle Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy.

Dyma yw’r diwrnod agored cyntaf i’r cyhoedd er pan agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan Dywysog Cymru ym mis Gorffennaf eleni. Bydd arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol yn dangos y gwaith arloesol a wneir gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion.

Mae Canolfan Môr Cymru yn gyfleuster modern, amgylcheddol-gyfeillgar gwerth £5.5M ar gyfer y sector morol yng Nghymru. Mae’n rhoi ffocws a mynediad i arbenigedd a gofod ar gyfer cydweithredu rhwng ymchwilwyr, gweithredwyr masnachol ac asiantaethau yn y sector.

Read More

Horizon yn cefnogi Gŵyl Bwyd Môr Menai

Heddiw (11 Awst), mae Pŵer Niwclear Horizon wedi cyhoeddi nawdd o £2,000 i’r Ŵyl Bwyd Môr Menai boblogaidd ar Ynys Môn.

Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai, a gynhelir am ddim ar ddydd Sadwrn 20 Awst ym Mhorthaethwy, yn dathlu treftadaeth arfordirol Ynys Môn, a’r doreth o fwyd môr lleol sydd ar gael o amgylch yr ynys. Mae’r sioe yn cynnwys arddangosiadau coginio, marchnad cynnyrch ac adloniant i’r hen a’r ifanc – yn ogystal â digon o bethau i’w bwyta. Mae’n ŵyl fwyd allweddol yng nghalendr digwyddiadau bwyd gogledd Cymru.

Cafodd Gŵyl Bwyd Môr Menai, a gynhaliwyd am y tro cyntaf ym mis Awst 2013, ei sefydlu gan grŵp o drigolion a busnesau ym Mhorthaethwy er mwyn hyrwyddo’r diwydiant pysgota lleol. Ers hynny mae’r Ŵyl Fwy Môr wedi mynd o nerth i nerth, ac yn denu dros 10,000 o ymwelwyr yn rheolaidd.

Bydd nawdd Horizon yn cefnogi Gŵyl Bwyd Môr Menai am flwyddyn arall, a bydd aelodau o’r tîm yno i dynnu sylw at ymgynghoriad nesaf y cwmni ar y cynigion diweddaraf ar gyfer Wylfa Newydd, sy’n cael ei lansio ddydd Mercher 31 Awst.

Dywedodd Greg Evans, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynhyrchu Horizon: “Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr coginio Ynys Môn, ac yn ffordd o ddathlu’r cyfoeth o fwyd môr sydd ar gael yn y môr yma, yn ogystal â bywyd yr ynys ei hun hefyd. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Ŵyl Fwyd Môr a chydnabod pa mor bwysig yw hi i’r gymuned leol a’r busnesau ledled Ynys Môn. Byddwn ni yno hefyd eleni i ateb eich cwestiynau am Wylfa Newydd a’n hymgynghoriad cyhoeddus nesaf, felly galwch heibio i gwrdd â’r tîm.”

Dywedodd David Evans, Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Bwyd Môr Menai: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Horizon am ei gyfraniad a’i gefnogaeth. Mae Wylfa Newydd yn ddatblygiad sylweddol yma ar Ynys Môn, ac mae’n galonogol iawn gweld bod Horizon yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol.

“Fel digwyddiad cymunedol dielw, rydym yn dibynnu’n llwyr ar nawdd a rhoddion i dalu ein costau a gwneud yn siŵr y gallwn barhau i gynnal yr Ŵyl flwyddyn ar ôl blwyddyn. Heb haelioni ein noddwyr a’n tîm arbennig o wirfoddolwyr, ni fyddai modd i ni gynnal y digwyddiad.”

Mae cynllun Rhoddion Elusennol, Cymorth Cymunedol a Nawdd Horizon yn darparu cyllid i elusennau, prosiectau a grwpiau lleol. Cyfrannodd y cwmni datblygu gorsaf bŵer arfaethedig dros £100,000 o gyllid eleni, gan sicrhau budd i tua 60 o achosion da. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth cymunedol Horizon, a sut mae gwneud cais am gyllid yn: http://www.horizonnuclearpower.com/cefnogir-gymuned.

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau Horizon i adeiladu Wylfa Newydd, gan gynnwys ei ymgynghoriad nesaf, ewch i: www.horizonnuclearpower.com/ymgynghoriad.

Gall pobl leol gyfarfod â thîm Horizon hefyd yn y Gymhorthfa Agored nesaf ddydd Llun 15 Awst yn Neuadd Bentref Cemaes. Bydd y tîm ar gael rhwng 1pm a 7pm.

Mwy na 200 o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen addysg

Mae disgyblion o saith ysgol gynradd yn Ynys Môn wedi bod yn dysgu am amgylchedd a bywyd y dyfroedd lleol, diolch i dîm Gŵyl Bwyd Môr Menai.

Mae mwy na 200 o blant wedi cymryd rhan yn rhaglen addysg yr Ŵyl sydd yn dysgu pobl ifanc am bwysigrwydd gwarchod a gwella’r amgylchedd arfordirol.

Noddwyd y rhaglen gan Ystadau Mostyn, a’r bwriad yw cyfuno addysg forol gyda choginio a chelf. Mae gweithdai wedi eu cynnal yn y saith ysgol gynradd yn nalgylch Porthaethwy, lle bydd yr Ŵyl Bwyd Môr yn cael ei chynnal am y pedwaredd flwyddyn yn olynol.

Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys sesiynau gan fiolegydd morol o Sŵ Môr Môn ynghylch effaith sbwriel ar yr arfordir a phwysigrwydd ailgylchu. Hefyd fel rhan o’r prosiect, cynhaliwyd sesiynau coginio a blasu gyda chogyddion Dylan’s a Denise Baker o Moel Faban Suppers i ddysgu sut i baratoi a mwynhau pysgod a bwyd môr lleol, a sesiynau celf lle cafodd y plant gyfle i greu pysgod lliwgar gan ddefnyddio hen boteli plastig a deunyddiau eraill wedi eu hailgylchu. Bydd y pysgod yn cael eu defnyddio i greu bynting deniadol i addurno safle’r Ŵyl.

Meddai Cadeirydd yr Ŵyl, David Evans: “Mae addysg yn elfen ganolog o’r digwyddiad. Sefydlwyd yr Ŵyl yn ôl yn 2013 i godi ymwybyddiaeth o’r cynnyrch ardderchog sydd ar gael oddi ar arfordir Môn, ac i bwysleisio mor bwysig yw gwarchod ein treftadaeth ac amgylchedd arfordirol.

“Rydyn ni’n hynod falch bod yr ysgolion lleol wedi cymryd rhan yn y rhaglen addysg eto eleni, ac mae’n wych fod cymaint o blant wedi cael cyfle i fwynhau’r gweithdai.”

Y saith ysgol a gymerodd ran oedd: Beaumaris, Llandegfan, Llanddaniel, Llangoed, Llanfairpwll, Porthaethwy a Phentraeth.

Meddai Mrs Gwyneth Môn Hughes, Pennaeth Ysgol Gynradd Beaumaris: “Mae’r gweithdai hyn wedi bod yn arbennig o fuddiol i’r plant. Maen nhw wedi cael cyfle i flasu a dysgu am y math o fwydydd môr sydd ar gael ar y stepan drws, a gobeithio y bydd hynny’n eu hannog i barhau i goginio a bwyta pysgod a bwyd môr yn y dyfodol.

“Mae’r sesiynau hefyd wedi eu dysgu am yr amgylchedd lleol a pha mor bwysig ydyw i ailgylchu ac ailddefnyddio er mwyn cadw ein harfordir yn lân.

“Yr hyn sy’n grêt am raglen addysg Gŵyl Bwyd Môr Menai yw ei bod yn clymu’n berffaith gyda’r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth, daearyddiaeth a chelf felly gallwn adeiladu ar yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu trwy weithgareddau ychwanegol yn yr ysgol. “

Cyhoeddi arlwy y cyngerdd agoriadol

Mae’r arlwy ar gyfer cyngerdd agoriadol Gŵyl Bwyd Môr Menai wedi ei chyhoeddi.

Bydd Meic Stevens yn dod i ddiddanu’r gynulleidfa, ochr yn ochr â Band Al Lewis, Sera a’r Band a Chôr Ieuenctid Môn.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn adeilad Pier y Tywysog am 6pm nos Wener 19 Awst. Mae’r tocynnau yn £15 i oedolion ac mae tocynnau consesiwn ar gael am £10. Noddir y cyngerdd eleni gan Bangor Mussel Producers.

Ar y dydd Sadwrn, bydd diwrnod llawn o weithgareddau yn cynnwys marchnad bwyd môr a chynnyrch lleol, stondinau bwyd stryd, saffaris glan y môr, celf a chrefft, a theithiau tywys o amgylch adeilad newydd sbon Ysgol Gwyddorau Môr Prifysgol Bangor. Bydd cerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd a bydd Drymbago yn perfformio ar yr iard gychod gyda’r nos cyn i’r Ŵyl ddirwyn i ben gyda thân gwyllt dros y Fenai.

Meddai Cadeirydd yr Ŵyl, David Evans: “Sefydlwyd Gŵyl Bwyd Môr Menai yn 2012 er mwyn dathlu ein treftadaeth arfordirol, gan gyfuno pysgod a bwyd môr gyda gweithgareddau addysgiadol, celf a diwylliant. Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o’r digwyddiad ac mae’r Ŵyl yn gyfle gwych i roi llwyfan i gerddorion o Gymru.

“Rydym yn hynod falch o gael perfformwyr mor adnabyddus a thalentog ar arlwy’r cyngerdd agoriadol. Mae’n argoeli i fod yn noson ardderchog ac yn gychwyn teilwng i beth fydd yn Ŵyl hynod lwyddiannus eto eleni.”

Mae’r tocynnau ar gael yn awr ym Mwyty Dylan’s, Porthaethwy. Mae tocynnau hefyd ar werth ar gyfer y dydd Sadwrn, ac yn costio £3 i oedolion, £2 consesiynau. Mae mynediad i blant o dan 12 am ddim.

Gwledd bwyd môr

Byddwn yn cynnal noson arbennig ar y 3ydd o Fawrth – gwledd o fwyd môr, gwin a noswaith o adloniant yng nghwmni siaradwyr gwadd ym Mwyty Dylan’s Porthaethwy. Mae’r tocynnau’n £60 y pen i gynnwys pum cwrs gyda gwin. Bydd yr elw’n mynd tuag at gostau’r Wyl. Mae hon yn noson boblogaidd bob blwyddyn, felly peidiwch â cholli allan – archebwch eich tocynnau trwy ffonio’r bwyty ar 01248 716714.

330003 Seafood Dinner

Cyhoeddi Dyddiad Gŵyl Bwyd Môr Menai 2016

Mae’r dyddiad ar gyfer Gŵyl Bwyd Môr Menai 2016 wedi ei gyhoeddi. Bydd yr Ŵyl, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Awst, gyda Chyngerdd yr Ŵyl ym Mhier y Tywysog ar noswyl y digwyddiad.

Sefydlwyd y digwyddiad blynyddol hwn bedair blynedd yn ôl er mwyn hybu’r diwydiant pysgota lleol, hyrwyddo cynnyrch lleol a dathlu treftadaeth arfordirol Ynys Môn.

Unwaith eto eleni, bydd yr Ŵyl ym Mhorthaethwy yn cynnig gweithgareddau i’r teulu oll gydag arddangosiadau bwyd, marchnad cynnyrch lleol, cerddoriaeth fyw a darlleniadau barddoniaeth, a sesiynau rhyngweithiol i blant.

Bydd rhaglen addysg yr Ŵyl yn cael ei rhedeg ymlaen llaw lle bydd cogyddion, biolegwr y môr, beirdd a darlunwyr yn cynnal gweithdai mewn chwe ysgol leol. Bydd y gweithdai hyn yn addysgu pobl ifanc am fwyd, amgylchedd a threftadaeth arfordir gogledd orllewin Cymru. Bydd gwaith celf a gynhyrchir gan y bobl ifanc fel rhan o’r rhaglen yn cael ei arddangos o amgylch y dref cyn yr Ŵyl.

Trefnir yr Ŵyl gan grŵp o fusnesau a gwirfoddolwyr lleol ar y cyd â Grŵp Bwyd Gorau Môn, Marchnad Ffermwyr Ynys Môn a Grŵp Gweithredu Pysgodfeydd Lleol Gwynedd a Môn.

Caiff y pwyllgor ei gadeirio gan David Evans a Phil Austin. Meddai David, o Fwyty Dylan’s a helpodd i sefydlu’r digwyddiad a chadeirio’r 2 ŵyl gyntaf: “Rwy’n hynod falch o fod yn cyd-gadeirio’r Ŵyl eto eleni. Mae’r digwyddiad wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae’n deg dweud ei fod bellach yn un o uchafbwyntiau’r calendr digwyddiadau bwyd yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r tair Gŵyl ddiwethaf wedi denu cyfanswm o fwy na 45,000 o ymwelwyr ac amcangyfrifif bod mwy na £750,000 wedi cael ei wario’n uniongyrchol yn ystod y diwgyddiadau. Hefyd, mae pysgotwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr lleol wedi cael cyfle i arddangos eu cynnyrch ac i ddatblygu eu busnesau. Mae’r Ŵyl hefyd wedi helpu i gryfhau delwedd Porthaethwy fel cyrchfan ardderchog ar gyfer bwyd.”

Ychwanegodd: “Mae Gŵyl Bwyd Môr Menai yn ddigwyddiad ddim er elw ac rydym yn hynod lwcus o gael cefnogaeth gan nifer o noddwyr a gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser am ddim. Ond y nod yw gwneud y digwyddiad mor gynaliadwy â phosibl ar gyfer y dyfodol. Gyda hyn mewn golwg ac oherwydd cyfyngiadau cyllidol, byddwn yn codi tâl mynediad bychan eleni o £3 i oedolion, £2 consesiynau, a mynediad i blant am ddim. Bydd hyn yn ein helpu tuag at gostau’r digwyddiad ac i wneud yn siŵr y gall barhau i ddigwydd yn y dyfodol.”

Bydd swper codi arian yn cael ei gynnal yn Dylan’s Porthaethwy ar 3 Mawrth. Mae’r tocynnau yn £60 y pen a fydd yn cynnwys 5 cwrs, gwin a siaradwyr gwadd. Gellir archebu tocynnau trwy ffonio’r bwyty ar 01248 716714.

Bydd mwy o wybodaeth am yr Ŵyl yn cael ei rhoi ar y wefan, www.menaiseafoodfestival.com, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Cynhelir cyfarfod cyntaf pwyllgor yr Ŵyl ddydd Mercher 17 Chwefror am 6.30 yn y Ganolfan Gymunedol ym Mhorthaethwy. Mae croeso i unrhyw un sydd yn awyddus i helpu a gwirfoddoli gyda’r digwyddiad fynychu’r cyfarfod.